Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org

Ymwelwyr

Dylai rhieni sy’n dymuno ymweld â’r ysgol i drafod addysg eu plant wneud trefniadau ymlaen llaw gyda’r Pennaeth un ai ar y ffôn neu drwy lythyr.

Dylai pob ymwelydd fynd yn syth i swyddfa’r ysgol.

Gan fod yna gymaint o drafnidiaeth ar dir yr ysgol yn ystod y dydd, mae diogelwch pawb sydd ar safle’r ysgol yn fater o flaenoriaeth, yn enwedig ar ddechrau a diwedd y dydd. Bydd yr ysgol yn gwneud y disgyblion yn ymwybodol o’r peryglon hyn drwy wersi tiwtorial/gwasanaethau/llythyrau i rieni ayyb. Mae angen i bawb sydd yn defnyddio eu ceir gymryd gofal pan fyddant ar dir yr ysgol a bod yn ymwybodol o nifer a natur y disgyblion ar y safle.

Er mwyn diogelwch pawb, rydym yn awyddus i gadw i’r drefn isod pan fydd cerbydau rhieni, staff ac ymwelwyr, yn ogystal â bysiau, yn ymweld â’r ysgol.

Os yw rhieni yn cludo disgyblion i’r ysgol yn eu cerbydau rhwng 8.00 a 8.45 y bore gofynnir iddynt ddefnyddio’r brif slipffordd sydd wrth giât yr ysgol (gweler map) ar gyfer gollwng disgyblion, a dylent barcio yn ofalus yn y maes parcio ar gyfer ymwelwyr ond nid ar y slipffordd.

Os yw rhieni yn dod â’u ceir ar dir yr ysgol ar ôl 9.00am a chyn 2.30pm gallant barcio ar iard yr ysgol fel mae lle yn caniatáu. Dylent gymryd pob gofal pan yn gyrru ar dir yr ysgol a hefyd dylent gyflwyno eu hunain ym mhrif swyddfa’r ysgol er mwyn cael bathodyn ymwelydd. Os yw’r ymweliadar ôl 2.30pm a chyn 3.45pm mae’n rhaid defnyddio’r brif slipffordd gan fod y bysiau yn cyrraedd tir yr ysgol. Gofynnir i rieni gymryd gofal arbennig yn ystod amser egwyl/cinio (12.35pm-1.35pm).

Mae’n bwysig nad yw ceir rhieni yn amharu ar y bysiau sy’n dod i nôl y plant drwy barcio wrth brif fynedfa’r ysgol.

Argymhellir bod rhieni sy’n codi eu plant ar ôl ysgol yn y prynhawn yn gwneud hynny ar ôl 3.30pmgan ddefnyddio’r brif slipffordd, pan fydd y bysiau ysgol, a’r nifer fawr o blant sy’n cerdded adref, wedi gadael tir yr ysgol.

Dylai rhieni bob amser gymryd sylw o gyngor/cyfarwyddyd y staff sydd ar ddyletswydd ar ddiwedd sesiwn y prynhawn.

Argymhellir bod ymwelwyr/ contractwyr yn parcio ar iard yr ysgol rhwng 9.00am a 2.30pm. Bydd angen i’r holl ymwelwyr/ contractwyr sydd yn ymweld â’r ysgol arwyddo i mewn ym mhrif swyddfa’r ysgol a rhoi gwybodaeth am natur eu hymweliad/ busnes. Dylai unrhyw ymwelwr sydd angen parcio mewn lle heblaw iard yr ysgol ee ar gyfer llwytho/dadlwytho, gael caniatâd gan y swyddfa.

Er mwyn diogelwch, ni ddylai unrhyw aelod o staff adael tir yr ysgol hyd nes bydd y bws olaf wedi gadael iard yr ysgol. Mae mannau parcio staff i’w gweld ar y map amgaeedig. Bydd angen i staff gymryd pob gofal wrth barcio, a gyrru i mewn ac allan o dir yr ysgol.

Mae cyfran helaeth o’r disgyblion yn cael eu cludo i’r ysgol gan fysiau a ddarperir gan yr Awdurdod Addysg. Yr Awdurdod, nid yr ysgol, sydd yn trefnu amseroedd a llwybrau’r bysiau. Fodd bynnag, pan fyddant ar iard yr ysgol dylai pob gyrrwr wrando a dilyn y cyngor/cyfarwyddyd a roddir gan staff yr ysgol. Bydd 6 aelod o staff ar ddyletswydd ar ddiwedd y diwrnod ysgol er mwyn sicrhau diogelwch. Dylid rhybuddio’r disgyblion i eistedd i lawr drwy gydol y siwrnai a pheidio ag ysmygu ar y bysiau ysgol. Dylent ymddwyn yn gyfrifol er lles a diogelwch pawb.

Trefnir cludiant ar gyfer pob disgybl sydd yn byw o fewn dalgylch yr ysgol (heblaw’r disgyblion hynny sydd o fewn pellter cerdded). Os yw disgybl yn byw o fewn tair milltir i’r ysgol mae’n orfodol iddynt dalu am drafnidiaeth. Os yw disgybl yn byw tu allan i’r tair milltir, ac o fewn y dalgylch, byddent yn derbyn tocyn bws. Nid oes trefn cludiant i ddisgyblion sydd yn byw tu allan i ddalgylch yr ysgol.

Mae angen i ddisgyblion Blwyddyn 12 a 13 sy’n dymuno teithio ar gludiant ysgol wneud cais am docyn teithio. Mae gan ddisgyblion Blynyddoedd 7 -11 sy’n byw llai na thair milltir o’r ysgol hefyd hawl i wneud cais am docyn teithio.

Cost y tocyn yw £60, gydag opsiwn o wneud dau daliad £30 yn hytrach na thalu’r swm llawn ar unwaith. Mae ffurflenni cais i’w cael o swyddfa’r ysgol ac i’w dychwelyd i:

Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd a Thrafnidiaeth)
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Disgwylir safon uchel o ymddygiad ar y bysiau: gall disgyblion sy’n ymddwyn yn wael gael eu gwahardd rhag defnyddio cludiant yr Awdurdod Addysg.

Gofynnir i’r bysiau gyrraedd yr ysgol o leiaf 10 munud cyn diwedd sesiwn y prynhawn a bod yn eu lle i dderbyn disgyblion pan fydd y gloch yn canu am 3.20 pm. Ni ddylai unrhyw fws symud oddi ar dir yr ysgol hyd nes bydd pob disgybl yn ddiogel ar fws.

Os cyfyd unrhyw broblem dylid cysylltu gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch yr ysgol yn y lle cyntaf.

Ar ddiwedd sesiwn y prynhawn bydd 6 aelod o staff ar ddyletswydd er mwyn sicrhau diogelwch wrth fynd ar y bysiau ac oddi ar safle’r ysgol. (gweler Atodiad). Mae’r bysiau ysgol ar gontract i’r Awdurdod Lleol ac felly’n dod o dan eu rheolaeth. Fodd bynnag, pan fyddant ar libart yr ysgol dylai pob gyrrwr wrando a dilyn y cyngor/cyfarwyddyd a roddir gan staff yr ysgol. Dylid rhybuddio’r disgyblion i eistedd i lawr bob amser a pheidio ag ysmygu ar y bysiau ysgol ac i ymddwyn mewn modd rhesymol.

Dylai’r bysiau ysgol gyrraedd y safle 10 munud cyn diwedd sesiwn y prynhawn a bod yn eu lle yn barod i dderbyn disgyblion gynted ag y gollyngir y disgyblion allan.

Dylid rhoi gwybod am unrhyw broblem yn ymwneud â chludiant i’r ysgol i’r Swyddog Iechyd a Diogelwch yn y lle cyntaf, a bydd yntau, os bydd angen, yn cysylltu ag aelod o’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am gludiant ysgol.