Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org
Gwybodaeth
Gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data dros e-bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol ac os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r data personol y mae’r ysgol yn ei gadw amdanoch.
Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data Ysgolion:
E-bost: dpoysgolionmon@ynysmon.gov.uk
Rhif ffôn: 01248 751833
Cyfeiriad:
Gwasanaeth Dysgu
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Swyddog Diogelu Data Ysgolion
GRANT DYSGU PROFFESIYNOL - click here
Ardal yn yr ysgol yw’r Gorad sydd yn ganolbwynt i ddiwallu anghenion ychwanegol cyfnodau allweddol 3 a 4. Er hyn, rydym yn anelu i integreiddio disgyblion ADY bob cyfle posib yn nhermau’r cwricwlwm a’r dosbarthiadau.
Mae’r ddarpariaeth i ddisgyblion datganiad/CDU yn gyfuniad o’r isod a’r gefnogaeth yn adlewyrchu’r hyn a argymhellir yn eu datganiadau/Cynllun Datblygu Unigol Dyma fraslun yn unig.
Cliciwch yma i weld yr fersiwn PDF llawn
Gwefan ADY a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn - cliciwch yma
Llythyr Ymwybyddiaeth i Rieni – ADY - cliciwch yma
Datganiad Gwariant Grant Datblygu Disgyblion Ysgol David Hughes
Diben y Grant Datblygu Disgyblion yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PhYD). Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at welliannau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Fel ysgol rydym am ddysgu o’r arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt trwy:
1. gynllunio ymyriadau sy’n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad plant o gefndiroedd difreintiedig, ac sy’n nodi’n glir yr hyn a ddisgwylir gan yr ymyriad, gan fonitro cynnydd disgyblion yn gyson a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad.
2. integreiddio cynlluniau ar gyfer defnyddio’r GDD i’n Cynllun Datblygu Ysgol, gan selio arferion ar dystiolaeth dda a’u cynnwys fel rhan o strategaeth ysgol gyfan.
3. gydbwyso ymyriadau ysgol gyfan ac ymyriadau wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael budd fel unigolyn a bod yr ysgol gyfan yn meithrin ei gallu i helpu pob dysgwr i gyflawni ei botensial llawn.
Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol David Hughes ddyraniad Grant Datblygu disgyblion o £101,200.
Yn Ysgol David Hughes mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Môn a GwE, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
- Gyflogi Swyddog Ymgysylltu Teuluoedd a Chefnogi dysgwyr Bregus er mwyn rhoi cefnogaeth i ddysgwyr bregus a’u teuluoedd er mwyn sicrhau:
Safonau cyflawniad yn codi – y bwlch rhwng perfformiad dysgwyr bregus a’u cyfoedion
Dysgwyr yn cael gwell cefnogaeth emosiynol er mwyn:-
Gwella ymddygiad
Gwella presenoldeb - Rhoi cefnogaeth benodol i ddysgwyr bregus o flwyddyn 7 -11 a sicrhau eu bod yn cael mynediad at weithgareddau allgyrsiol a chwricwlaidd ee anogaeth dysgu; cefnogaeth Saesneg, Mathemateg a Chymraeg;
- Gyflogi Swyddog Presenoldeb
Nid yw’n briodol i’r ysgol gyhoeddi ei chynllun manwl oherwydd y perygl y gellid adnabod
unigolion.
Cliciwch yma i weld fersiwn PDF