Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org

Papur Newydd

 

25.01.17 Gig YDH

Gareth Hughes o flwyddyn 8 buodd yn holi aelodau o'r grwpiau a disgyblion am eu barn!

Roedd pawb yn gyffrous i weld Madarch, Carma a’r Tri ‘Muscatiar’ ar ôl cinio. Dywedodd y bandiau eu bod nhw yn gyffrous i berfformio o flaen pawb.

Daeth pawb i’r neuadd yn y prynhawn ar ôl cinio yn gyffrous i weld y tri band yn perfformio. Dywedodd y bandiau eu bod yn nerfus i berfformio, ond hefyd yn barod. Mae Madarch wedi perfformio o flaen yr ysgol yn barod, blwyddyn diwethaf ac yn yr Eisteddfod Ysgol. Dywedodd Madarch eu bod yn caru y gynilleidfa plant ac am fod yn well na flwyddyn diwethaf! Dywedodd y Tri Muscatiar eu bod nhw yn ofn a nerfus i berfformio oherwydd ei ‘gig’ cyntaf oedd o!

Dechreuodd yr gig efo Carma, band o Langefni. Chwareon nhw gan godi’r awyrgylch yn y neuadd. Dywedodd Holly Hughes fod yr drymiwr yn arderchog ond roedd yr offerynnau yn llawer fwy synllyd na’r canwr. Wedyn daeth Madarch i’r llwyfan gan ddechrau ‘Coblyn o rêf’ fel y dywedodd Hedd Owen. Roedd y gynulleidfa yn canu efo nhw a phawb yn rhedeg o gwmpas.

Chwareodd yr Tri Myscatiar ond roedd Deio, yr chwaraewr gitar yn absennol ohewrydd ei fod mewn cystadleuaeth traws-gwlad. Ond ar y cyfan, dywedodd llawer o bobl eu bod wedi Mwynhau. Dywedodd Storm Liberty o flwyddyn 12 ‘Love it! Best thing I’ve seen in YDH, in the whole time I’ve been here!’, Megan Pritchard ‘Buzzin, having a great time with younger years.’ a Cari Jones ‘Cael hwyl go iawn! Mwynhau!’

Gan Gareth Hughes 8M


imageCerdd hyfryd gan Lois Medi Wiliam. Addas iawn ar gyfer Ddiwrnod Cofio'r Holocost yfory

Cliciwch ar y llun neu yma i weld y gerdd

Yn hanner tymor mis Chwefror, cafodd rhai disgyblion Dylunio a Thechnoleg gyfle i fynd i Disneyland a Pharis am ymweliad addysgol.

imageRoedd y daith yn caniatáu i'r disgyblion ymweld â lleoliadau twristaidd gwahanol o amgylch Disneyland a Pharis. Cafodd pawb gyfle hefyd i ymarfer eu Ffrangeg wrth gael y cyfle i ymweld â bwytai a siopau yn Disneyland.

Cawsom gyfle i weld lawer o'r prif atyniadau ym Mharis, megis y, louvre, yr Arc de Triomphe a'r Tŵr Eiffel. Drwy gael taith o amgylch Paris cafodd y dysgwyr profiad o weld diwylliant Ffrangeg, a gwneud ychydig o siopau!

Ar y noson gyntaf yn cafodd y disgyblion gyfle i wylio'r sioe Buffalo Bill yn Disneyland, ac roedd pawb wedi mwynhau y bwffe hyfryd a gafodd ei weini. Hefyd, cafodd y disgyblion gyfle i ymweld â Planet Hollywood a Disney Hotel Cheyenne ar gyfer prydau bwyd gyda'r nos. Roedd yn brofiad gwych i bob disgybl!

Yn ystod ein ymweliad aethom ni i’r Louvre, er mwyn cael gweld y gwaith celf a dylunio yno. Rhoddodd hyn profiad gwerthfawr iawn i’r disgyblion. Treuliodd y disgyblion diwrnod cyfan ym Mharc Disney, lle bydden wedi cael profiad o weld yr atyniadau yn y parc.

imageCymerodd y disgyblion rhan mewn seminar yn cynnwys astudiaeth achos i Ddylunio a thechnoleg, cyfweliadau gyda rheolwyr Disneyland Paris a chael gwylio ffilm y tu ôl i'r llenni am Barc Disney. Yn ystod y seminarau cafodd y disgyblion gyfle i weld sut mae'r matiau diod rholer a reidiau wedi cael ei ddatblygu yn Disneyland a'r Stiwdios Walt Disney.

Dyfyniadau gan fyfyrwyr ar ôl bod ar y daith:

'Roedd y profiad o fynd i mewn i Baris yn ddiddorol iawn ac roedd ybwyd yn wirioneddol flasus.' William Fitzpatrik, Blwyddyn 10
'Mwynhais mynd o gwmpas Paris ar ôl i ni fod yn y Louvre.' Mark Walker, Blwyddyn 10
'Fe wnes i fwynhau'r profiad yn Buffalo Bill a oedd yn edrych dros yr cylch ceffylau.' Alexandra Williams, Blwyddyn 10
Roeddwn wrth fy modd! Roedd yn le gyffrous a chreadigol. Fy hoff reid oedd y ‘Mine Train’ a'r Ratatouille.’ Bethany Mahon, Blwyddyn 10
Roeddwn wrth fy modd yn Disneyland Paris. Roedd y profiad yn anhygoel. Roeddwn yn lwcus iawn yn cael mynd i'r rhan fwyaf o'r bwytai enwog a paricau.’ Rowena Mahon, Blwyddyn 10

 
Mae Elinor yn holi Mair pam iddi gynnal stondin gacennau yn yr ysgol wythnos diwetha? Gwyliwch y fideo, achos teilwng iawn.