Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org

Croeso gan y Pennaeth

Annwyl Riant

Ein nod yn Ysgol David Hughes yw rhoi'r addysg orau bosibl i’r disgyblion. Yn fwy na dim, dymunwn seilio ein holl system ar y cysyniad o barch - parch yr ysgol tuag at y disgybl, parch y disgybl tuag at ddisgyblion eraill, parch tuag at gymuned ddwyieithog yr ysgol a pharch tuag at ddyfodol y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.

Ystyrir pob disgybl yn unigolyn sydd yn aelod pwysig o Ysgol David Hughes. Rydym yn rhoi pwyslais ar safonau academaidd uchel, sy’n golygu bod yr unigolyn yn sylweddoli ei botensial neu ei photensial. Anogwn ein holl ddisgyblion i lwyddo beth bynnag fo’u gallu. Gobeithiwn hefyd ehangu gorwelion trwy nifer o weithgareddau ysgol allgyrsiol, datblygu ymwybyddiaeth cymdeithasol trwy ein hymdrechion ar ran elusennau, ehangu’r meddwl trwy’r profiad o ymweliadau tramor, sicrhau dealltwriaeth o’r gymuned leol trwy ein rhaglenni profiad gwaith a menter busnes.

Gobeithiwn bwysleisio disgyblaeth a gofal sylfaenol ar gyfer yr unigolyn trwy ein system fugeiliol. Cefnogir hyn trwy ddatblygu cynllun manwl o drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Yn y blynyddoedd diweddar mae’r ysgol wedi buddsoddi yn drwm mewn offer ac adnoddau technolegol sy’n darparu'r sgiliau angenrheidiol sydd angen ar ddisgyblion i wynebu her y mileniwm newydd. Rhoddir pwyslais ar adnoddau’r llyfrgell sy’n hanfodol i ateb gofynion gwaith cwrs/asesiad dan reolaeth TGAU. Mae ein hadrannau gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhoi pwysigrwydd mawr ar natur ymarferol eu pynciau. O fewn meysydd daearyddiaeth a’r dyniaethau, rhoddir pwyslais ar waith maes, ac mae’r adrannau Cymraeg a Saesneg yn trefnu ymweliadau i theatrau lleol a chenedlaethol yn rheolaidd.

Wrth geisio datblygu’r disgybl cyflawn credwn fod y celfyddydau mynegiannol (Cerddoriaeth, Celfyddyd a Drama) yn bwysig ac rydym yn falch o’n cyraeddiadau yn y meysydd hyn. Gellir mesur y rhain yn nhermau cyrsiau ysgol, ein perfformiadau cyhoeddus a llwyddiant disgyblion yn y cyfryngau, Cerddorfa Ieuenctid Cymru a’r niferoedd sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau.


Mae’r syniad o bartneriaeth rhwng athro a disgybl, yr ysgol a’r cartref yn hanfodol i’r uchod. Un o brif gryfderau'r ysgol erioed yw ei hethos ofalgar, agored a hapus lle mae disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg yn yr amgylchedd dwyieithog y maent yn rhan ohono.


Yn y prosbectws hwn bu ymgais i roi disgrifiad manylach o drefniadaeth ac athroniaeth yr ysgol. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi ac y byddwch yn awyddus i ymuno yn y bartneriaeth i hybu'r ddelfryd y mae’r ysgol yn ei choleddu.

Yn gywir
Pennaeth