Ffôn: 01248 712287 • E-bost: post@ysgoldavidhughes.org
Polisiau
Ein teitl a’n cyfeiriad llawn er mwyn anfon ceisiadau am unrhyw ddogfennau yw:
Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
Y sawl sy’n gyfrifol am gynnal y cynllun hwn yw: Mr H Emyr Williams, Pennaeth
Beth yw Cynllun Cyhoeddi a’r rheswm dros ei ddatblygu
Un o nodau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y cyfeirir ati fel DRhG yng ngweddill y ddogfen hon) yw y dylai awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys yr holl ysgolion a gynhelir, gymryd camau i egluro pa wybodaeth y byddant yn ei darparu i’r cyhoedd.
Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni lunio cynllun cyhoeddi sy’n nodi:
- Y dosbarthiadau gwybodaeth yr ydym yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi;
- Y ffordd y cyhoeddir y wybodaeth; ac
- A yw'r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim neu a oes rhaid talu amdani.
Mae’r cynllun yn delio â’r wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes a gwybodaeth a gyhoeddir yn y dyfodol. Mae'r holl wybodaeth yn ein cynllun cyhoeddi [naill ai ar gael i chi ar ein gwefan i’w llwytho i lawr a’i hargraffu neu] ar gael ar bapur.
Efallai na ellir rhannu rhywfaint o'r wybodaeth sydd gennym gyda’r cyhoedd, er enghraifft gwybodaeth bersonol.
Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn cydymffurfio â’r cynllun model i ysgolion a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Categorïau gwybodaeth a gyhoeddir
Mae’r cynllun cyhoeddi yn eich tywys i wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi ar hyn o bryd (neu a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar) neu y byddwn yn ei chyhoeddi yn y dyfodol – rhennir y wybodaeth hon yn gategorïau gwybodaeth a elwir yn ‘ddosbarthiadau’. Cynhwysir y rhain yn adran 5 y cynllun hwn.
Trefnir y dosbarthiadau gwybodaeth y bwriadwn sicrhau eu bod ar gael, yn bedwar maes pwnc bras:
- Prosbectws yr Ysgol – gwybodaeth a gyhoeddir ym mhrosbectws yr ysgol.
- Dogfennau Llywodraethwyr – gwybodaeth a gyhoeddir yn Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr ac mewn dogfennau eraill gan y corff llywodraethu.
- Disgyblion a Chwricwlwm – gwybodaeth am bolisïau sy’n ymwneud â disgyblion a chwricwlwm yr ysgol.
- Polisïau’r Ysgol – gwybodaeth am bolisïau sy’n ymwneud â’r ysgol yn gyffredinol.
Sut i ofyn am wybodaeth
Gallwch ofyn i’r Pennaeth am gopi o’r wybodaeth yr hoffech ei gweld.
Os nad yw’r wybodaeth yr hoffech ei gweld ar gael dan y cynllun [ac os nad yw ar ein gwefan], mae’n dal yn bosibl i chi holi a yw’r wybodaeth gennym. Gallwch gysylltu â’r ysgol dros y ffôn, y ffacs, e-bost neu trwy lythyr.
E-bost: pennaeth.davidhughes@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01248 712287
Ffacs: 01248 713919
Cyfeiriad Cyswllt: Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5SS
I’n helpu i brosesu’ch cais yn gyflym, nodwch y geiriau “CAIS DAN Y CYNLLUN CYHOEDDI” (mewn LLYTHRENNAU BRAS mewn print trwm) yn eglur ar unrhyw ohebiaeth.
Mae gosod gwaith cartref yn ddull arall o asesu cynnydd disgybl yn barhaol; mae’n rhan hanfodol o raglen waith pob disgybl. Bydd y gwaith yma’n cynnwys amryw o weithgareddau, ac yn gofyn am ysgrifennu, gwaith dysgu a gwaith ymchwil ar ran y disgybl.
Paratowyd amserlen ar gyfer pob dosbarth ac mae gan bob disgybl lyfr gwaith cartref. Dylai disgyblion nodi pob aseiniad a osodir iddynt yn y llyfr hwn a gofynnir i’r rhieni ei arwyddo’n wythnosol.
Cyhoeddwyd llawlyfr gwaith cartref gan yr ysgol ac fe roddir copi i bob disgybl.
Mae'r Corff Llywodraethol wedi cymeradwyo'r datganiad polisi a ganlyn ar Addysg Rhyw fel y mae'n ofynnol gan Adran 21 y Ddeddf Addysg, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth y Cynulliad fel y'u gosodwyd yng nghylchlythyr 11/02, a chylchlythyr yr AALl ar bolisïau Addysg Rhyw a Pherthnasoedd mewn ysgolion.
Mae Addysg Rhyw yn rhan o’r cwricwlwm gorfodol y mae pob disgybl â hawl gyffredin iddo. Darperir rhaglen sydd yn helpu disgyblion i ddatblygu gwybodaeth sy’n briodol ar gyfer oedran, dealltwriaeth a datblygiad y myfyrwyr
Nod
Nod y rhaglen Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yw helpu a chefnogi ein pobl ifanc wrth iddynt ddatblygu’n gorfforol, yn emosiynol, yn foesol ac yn ysbrydol o blentyndod, trwy lencyndod i fod yn oedolion. Bydd y rhaglen yn sicrhau y gall y myfyrwyr wneud penderfyniadau synhwyrol yn seiliedig ar wybodaeth. Fe’u hanogir i barchu eu hunain ac eraill a chânt eu paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolion, yn ogystal â’r cyfle i ddatblygu agweddau, gwerthoedd a sgiliau sy’n dylanwadu ar y modd y maent yn ymddwyn.
Amcanion
Bydd y myfyrwyr yn:
- Deall pwysigrwydd perthnasoedd sefydlog a chariadus
- Datblygu sgiliau er mwyn adeiladu perthnasau llwyddiannus â chyfeillion a’r gymuned ehangach
- Dysgu am natur ac arwyddocâd priodas a phwysigrwydd hynny wrth fagu plant
- Dysgu am ryw, rhywioldeb ac iechyd rhywiol, gan gynnwys y gyfraith mewn perthynas â hyn
- Meithrin hyder, ymwybyddiaeth a hunan barch
- Datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth mewn cymdeithas, hyrwyddo cyfle cyfartal a herio rhagfarn
- Gwybod lle i gael cyngor am faterion perthnasol
- Cael cyfleoedd i drafod materion yn agored
Cyfle Cyfartal
Yn unol â pholisi'r ysgol ar gyfle cyfartal, bydd pob disgybl yn cael mynediad i'r rhaglen a osodwyd gan yr ysgol ar addysg rhyw a fydd yn cael ei ddysgu mewn grwpiau gallu cymysg.
Materion Penodol
Pan fo disgybl yn mynd at athro am gyngor penodol am faterion yn ymwneud â rhyw/atal cenhedlu, dylai athrawon, ble bynnag y bo modd, annog y disgybl i ofyn i'w rieni am gyngor ac os yw hynny'n briodol gan y gweithwyr proffesiynol perthnasol o fewn y gwasanaeth iechyd.
Cyfrinachedd
Wrth gael eu dysgu mewn grwpiau, gwneir y disgyblion yn ymwybodol o ddoethineb wrth rannu materion personol gyda'u cyfoedion. Y gobaith yw y bydd gan y disgyblion hyder y bydd eu hathrawon yn gwrando arnynt, yn eu cefnogi ac yn parchu eu hymddiriedaeth. Mae'n rhaid i athrawon, fodd bynnag, rybuddio unrhyw berson ifanc sy'n dymuno ymddiried ynddynt na allant addo cyfrinachedd mewn materion amddiffyn plant. Dilynir y camau a nodir yn y ‘Polisi Amddiffyn Plant’.
Clinig
Mae’r ysgol yn cydweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i ddarparu clinig galw heibio.
Gweithdrefnau neilltuo plentyn
Er bod rhaglen addysg rhyw yn rhan o'r cwricwlwm ysgol gynlluniedig gall rhieni ymarfer eu hawl i neilltuo eu plentyn o ran neu o'r cyfan o'r rhaglen drwy ysgrifennu at y Pennaeth. Nid yw'r hawl hon yn cynnwys neilltuo plentyn o'r elfennau hynny sy'n ofynnol gan Orchymyn Gwyddoniaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Gellir gweld copi o’r polisi llawn trwy gysylltu â’r ysgol.
-
EGWYDDORION
- Bod mor iach ag y mae modd yn gorfforol ac yn feddyliol
- Cael y budd pennaf o gyfleoedd addysgol o ansawdd da
- Teimlo’u bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi, a’u cynnal gan rwydwaith
ddibynadwy ac o fewn yr ysgol
- Datblygu’n unigolion annibynnol sy’n gallu gofalu amdanynt eu hunain
- Bod â delwedd gadarnhaol ohonynt eu hunain ac ymdeimlad diogel o hunaniaeth, gan
gynnwys hunaniaeth diwylliant a hil.
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol da a hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
DIFFINIADAU O GAM-DRIN AC ESGEULUSO PLANT
Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso plentyn drwy beri niwed iddo, neu drwy fethu gweithredu i atal niwed.
Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed ddioddef camdriniaeth neu esgeulustod ac o ganlyniad bydd
angen eu hamddiffyn drwy Gynllun Amddiffyn Plant Rhyngasiantaethol Ynys Môn.
1. Cam-drin corfforol - taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu achosi
niwed corfforol mewn unrhyw ffordd arall i blentyn.
(Gall niwed corfforol hefyd gael ei achosi pan fydd rhiant neu ofalydd yn ffugio symptomau
iechyd)
2. Cam-drin emosiynol – trin plentyn yn wael yn barhaus sy’n achosi effeithiau drwg difrifol a
pharhaus i ddatblygiad emosiynol plentyn.
3. Cam-drin rhywiol – gorfodi plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithrediad rhywiol,
p’un ai yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio.
4. Esgeulustod - methiant parhaus i gyfarfod ag anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol
plentyn.
5. Perygl o niwed arwyddocaol – cyfuniad o’r diffiniadau uchod
Rydym yn cydnabod yn llawn ein cyfraniad at amddiffyn plant yr ysgol.
Rhennir ein polisi i dair agwedd:- - atal drwy’r addysgu a’r cymorth bugeiliol sy’n cael ei gynnig i ddisgyblion
- gweithdrefnau ar gyfer adnabod achosion neu amheuon o gam-drin ac adrodd arnynt.
- cefnogi disgyblion a allai fod wedi cael eu cam-drin.
Mae ein polisi’n berthnasol i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn yr ysgol, ac i’r
llywodraethwyr. Efallai mai cymorthyddion dysgu, goruchwylwyr canol dydd, gofalwyr, staff
ategol yn ogystal ag athrawon, fydd y bobl gyntaf y mae plentyn yn datgelu gwybodaeth iddynt.
Mae gan Ysgol David Hughes ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion a mae’n chwarae rhan bwysig i atal
camdriniaeth ac esgeulustod drwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc. Mae gan athrawon
a staff ategol yr ysgol swyddogaeth bwysig i adnabod arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod posibl.
Oherwydd ein cysylltiad beunyddiol â phlant, mae staff yr ysgol mewn sefyllfa dda i sylwi ar unrhyw
arwyddion allanol o gam-drin ac ymateb yn briodol.
NÔD
Mae pob plentyn yn haeddu’r cyfle i gyrraedd ei botensial llawn. Bydd yr ysgol yn ceisio sicrhau ei bod yn
chwarae’i rhan i alluogi pob disgybl i gyflawni’r canlynol: -
1. CYFLWYNIAD
Mae’r strategaeth ‘Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: Y Dull Partneriaeth’ (2000) yn datgan bod ‘Camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn broblem gymhleth, ddynamig ac amlweddog’. Un o brif nodau’r strategaeth yw helpu plant a phobl ifanc i wrthod camddefnyddio sylweddau er mwyn cyflawni eu potensial llawn mewn cymdeithas.
Dylid darllen a defnyddio’r polisi hwn ochr wrth ochr â Chylchlythyr Llywodraeth Cynulliad Cymru 107/2013 ‘Camddefnyddio Sylweddau: Plant a Phobl Ifanc’ sy’n disodli cylchlythyr 17/02.
2. DIFFINIAD O SYLWEDD
At ddibenion y polisi hwn, mae’r gair ‘sylweddau’ yn cynnwys pob sylwedd sy’n newid hwyliau a pherfformiad, yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon, ac yn cynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn, alcohol, tybaco a thoddyddion (gan gynnwys e-sigarets).
Bydd llawer o gyffuriau yn cael eu cludo yn gyfreithlon fel meddyginiaeth. Ceir polisi clir ar weinyddu meddyginiaeth. Os bydd disgyblion yn cyflenwi cyffuriau ar bresgripsiwn i ddisgyblion eraill yn yr ysgol, maent yn gweithredu yn anghyfreithlon ac felly bydd y polisi hwn yn dod i rym.
3. RHOI AR WAITH
Y Pennaeth a’r Corff Llywodraethu sydd â’r cyfrifoldeb yn y pen draw am roi’r Polisi Camddefnyddio Sylweddau ar waith.
Yn Ysgol David Hughes, yr aelod o staff sydd â chyfrifoldeb am Gamddefnyddio Sylweddau yw’r aelod o’r UDRh sydd yn gyfrifol am les.
Bydd Llywodraethwyr yr ysgol yn adolygu’r polisi hwn yn unol â’r amserlen adolygu polisïau. Hefyd mae’n bosib y bydd Llywodraethwyr yn cymryd rhan mewn camau i ddisgyblu, yn ôl y gofyn.
3.1 YMWYBYDDIAETH
Dylai’r Polisi Camddefnyddio Sylweddau fod yn hysbys i bob aelod o staff a allai wneud cyswllt cyntaf â’r heddlu. Fel arfer dylid cyfyngu cyswllt o’r fath i’r:
• Pennaeth
• Y Dirprwy Bennaeth neu'r Pennaeth Cynorthwyol
• Swyddog Amddiffyn Plant
3.2 CYSWLLT Â’R CYFRYNGAU
Ni fydd staff yn Ysgol David Hughes yn adrodd ar ddigwyddiadau a/neu faterion sy’n ymwneud â Chamddefnyddio Sylweddau i’r cyfryngau a'r wasg leol yn gyffredinol. Bydd y Pennaeth, mewn ymgynghoriad â'r AALl a'r Llywodraethwyr, yn delio yn bersonol â phob mater sy'n ymwneud â'r cyfryngau. Bydd pob ymholiad gan y cyfryngau yn cael ei gyfeirio i Swyddfa’r Wasg Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r Corff Llywodraethol wedi mabwysiadu polisi o godi tâl ar ddisgyblion am:
- Gostau llety a bwyd ar ymweliadau addysgol;
- Weithgareddau y tu allan i oriau ysgol;
- Arholiadau allanol, pan nad yw’r ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn honno;
- Arholiadau pan fo disgybl yn methu â chyflawni’r gofynion neu'n methu â mynychu’r arholiad heb reswm digonol;
- Ddifrod bwriadol i eiddo’r ysgol neu am golli eiddo’r ysgol.
Gofynnir am gyfraniad gwirfoddol gan rieni pan na ellir codi tâl am weithgareddau ond sicrheir na waherddir disgyblion rhag cymryd rhan pan na all eu rhieni gyfrannu. Mae’n bosibl na fydd modd cynnal rhai gweithgareddau heb gefnogaeth wirfoddol deilwng.
Ceir manylion pellach yn yr ysgol ynghyd â gwybodaeth am ddarpariaeth ar gyfer disgyblion anghenus.
Mae’r Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu’r polisi uchod ar gyfer Ysgol David Hughes. Mae’r polisi yn ymgynghorffori:
- Egwyddorion Arweiniol
- Polisïau ac arfer ysgol
- Delio a Hiliaeth
- Cyfrifoldebau
- Polisi ar waith
- Gwybodaeth ac Adnoddau
- Cadwraeth Grefyddol
- Gellir gweld copi o’r polisi llawn trwy gysylltu â’r ysgol.
Mae'n ddyletswydd ar y Corff Llywodraethol a'r Pennaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal a pherthynas dda yn yr ysgol i'w holl weithwyr a disgyblion. Mae'r ysgol wedi gweithredu polisi i'r perwyl hwn. Mae'r polisi hwn yn sail ar gyfer llawer o benderfyniadau a gymerir o fewn yr ysgol. Gellir gweld copi llawn o'r Polisi Cyfle Cyfartal drwy gysylltu â'r ysgol.
CENHADAETH
Cynnig yr addysg ddwyieithog orau a mwyaf perthnasol i bob disgybl yn ddiwahân a chreu cymdeithas agored sy’n parchu safbwyntiau, dyheadau a gobeithion pawb sy’n rhan o’r ysgol
Categori Iaith yr Ysgol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diffinio categorïau o ysgolion yn ôl faint o Gymraeg a ddefnyddir wrth addysgu a dysgu ac ym mywyd bod dydd yr ysgol. Mae Ysgol David Hughes yn dod o dan Gategori 2B - “Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond fe’u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg hefyd”.
Nod y Polisi Iaith
Y nod yw sicrhau bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Wrth “ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol” golygir bod disgyblion yn meddu ar sgiliau ieithyddol priodol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn y sector uwchradd golyga hyn fod pob disgybl yn astudio’r Gymraeg a’r Saesneg fel pynciau hyd at ddiwedd Blwyddyn 11. Disgwylir i bawb sefyll arholiad iaith mewn Cymraeg a Saesneg sy’n addas ar eu cyfer ac sydd hefyd yn adlewyrchu’r angen am ddilyniant mewn datblygiad ieithyddol. Bydd disgyblion hefyd yn sefyll arholiad llenyddiaeth lle bo hynny'n gymwys.
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
Ceir darpariaeth ar gyfer dysgu gwahanol bynciau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a Saesneg. Mae’r pynciau canlynol ar gael drwy gyfrwng y ddwy iaith gan weithio tuag at y cydbwysedd ieithyddol a nodir ym mholisi Iaith yr Awdurdod Addysg: Astudiaethau Crefyddol, Hanes, Daearyddiaeth, Ffrangeg, Almaeneg, Cerddoriaeth, Technoleg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Drama, Astudiaethau’r Amgylchedd, Astudiaethau Cyfryngau, Celf.
Gyda dysgwyr da, anelir at iddynt rannu eu hamser rhwng gwaith cyfrwng Cymraeg a gwaith cyfrwng Saesneg. Addaswyd lefelau iaith y cyrsiau hyn i gyfateb i hyfedredd ieithyddol y disgyblion. Bydd llawer o’r gwaith hwn yn digwydd gyda’r pynciau Dyneiddiol a Mynegiannol.
Ein dymuniad yw sicrhau datblygiad dwyieithog y disgybl. Golyga hyn i’r disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg ddilyn rhai pynciau, neu rannau o bynciau drwy gyfrwng y Saesneg a bod dysgwyr da, ar y llaw arall, yn astudio modiwlau o rai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda dysgwyr sylfaenol estynnir eu hyfedredd yn y Gymraeg drwy iddynt dreulio cyfran o’u hamser yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys y gwersi statudol Cymraeg sy’n cyfrif am 12% o’r amser.
Profodd y polisi hwn yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol a gobeithiwn adeiladu ar y llwyddiant i’r dyfodol.
Iaith Gweinyddu
Defnyddir yr iaith Gymraeg i gyfathrebu â disgyblion ac athrawon lle bo hynny’n addas a naturiol. Anfonir pob gwybodaeth ysgrifenedig gan y Pennaeth i’r staff ac i’r rhieni yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cynhelir pob gwasanaeth boreol ar gyfer y gwahanol grwpiau blwyddyn yn ddwyieithog. Gofynnir i’r staff a’r disgyblion sicrhau bod pob rhybudd, poster, arwydd a dogfen swyddogol yn ddwyieithog.
Hysbysiad Preifatrwydd: Beth y mae Ysgolion, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud â'r wybodaeth y maent yn ei chadw am Ddisgyblion
Pwnc
I fodloni gofynion Deddf Diogelu Data 1998, mae'n ofynnol i ysgolion roi Hysbysiad Preifatrwydd i ddisgyblion a/neu rieni sy'n crynhoi'r wybodaeth sy'n cael ei chadw ar gofnod am ddisgyblion, y rhesymau pam ei bod yn cael ei chadw, a manylion y trydydd partïon y ceir trosglwyddo'r wybodaeth honno iddynt.
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth am gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol disgyblion, a gwybodaeth am eu perfformiad, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Lleol CYNGOR SIR YNYS MÔN ac YSGOL DAVID HUGHES.
Casglu gwybodaeth bersonol
Mae'r ysgol yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion a'u rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol wrth iddynt gofrestru gyda'r ysgol. Mae'r ysgol hefyd yn casglu gwybodaeth ar adegau allweddol eraill yn ystod y flwyddyn ysgol. Bydd yr ysgol hefyd yn cael gwybodaeth o ysgolion eraill pan fydd disgyblion yn symud ysgol.
Mae'r Ysgol yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i weinyddu'r addysg y mae'n ei darparu i ddisgyblion. Er enghraifft:
- darparu gwasanaethau addysgol i unigolion.
- monitro ac adrodd am gynnydd addysgol y disgyblion.
- darparu gwasanaethau lles, gofal bugeiliol a gwasanaethau iechyd.
- rhoi cefnogaeth ac arweiniad i ddisgyblion, rhieni a gwarcheidwaid cyfreithiol.
- trefnu digwyddiadau a theithiau addysgol.
- cynllunio a rheoli'r ysgol.
Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Awdurdod Lleol
Fel arfer, caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru wybodaeth am ddisgyblion fel rhan o'r hyn a adweinir fel Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio'r wybodaeth bersonol hon at ddibenion ymchwil (sy'n cael ei chynnal yn y fath fodd sy'n sicrhau na ellir adnabod disgyblion unigol) ac at ddibenion ystadegol, i lywio a gwella polisi addysg, a dylanwadu arno, ac i fonitro perfformiad y gwasanaeth addysg yn ei chyfanrwydd. Cewch enghreifftiau o'r mathau o ystadegau a gynhyrchir yn www.cymru.gov.uk/ystadegau.
Mae'r ALl hefyd yn defnyddio'r wybodaeth bersonol a gesglir drwy gyfrwng y CYBLD i gynnal ymchwil. Mae'n defnyddio canlyniadau'r ymchwil i wneud penderfyniadau ynghylch polisi ac ariannu ysgolion, i asesu perfformiad ysgolion, ac i'w helpu i osod targedau. Caiff yr ymchwil ei chynnal yn y fath fodd fel na ellir adnabod disgyblion unigol. Yn ogystal, caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru ac ALlau wybodaeth ynghylch asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau Arholiadau Cyhoeddus a data ar bresenoldeb ar lefel disgyblion.
Gwybodaeth bersonol a gedwir
Dyma'r math o wybodaeth bersonol a gedwir:
- manylion personol megis enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cod adnabod y disgybl a manylion cyswllt rhieni a gwarcheidwaid.
- gwybodaeth am berfformiad mewn asesiadau ac arholiadau mewnol a chenedlaethol.
- gwybodaeth am dras ethnig a chenedligrwydd disgyblion (dim ond er mwyn paratoi dadansoddiadau ystadegol cryno y defnyddir yr wybodaeth hon).
- manylion am statws mewnfudo disgyblion (dim ond er mwyn paratoi dadansoddiadau ystadegol cryno y defnyddir yr wybodaeth hon).
- gwybodaeth feddygol sydd ei hangen i gadw'r disgyblion yn ddiogel tra bônt dan ofal yr ysgol.
- gwybodaeth am bresenoldeb ac am unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd.
- gwybodaeth am unrhyw gysylltiad rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a disgyblion unigol, lle bo angen gwybod hynny er lles y disgybl.
Cyrff a gaiff rannu gwybodaeth bersonol
Caiff yr Ysgol, yr AALl a Llywodraeth Cynulliad Cymru rannu'r wybodaeth a gedwir am ddisgyblion, eu rhieni neu eu gwarcheidwaid cyfreithiol gyda chyrff eraill pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny, er enghraifft, gyda:
- chyrff addysgol a chyrff hyfforddi eraill, gan gynnwys ysgolion, pan fydd disgyblion yn gwneud cais i fynd ar gyrsiau, i gael hyfforddiant, i symud ysgol neu pan fyddant yn gofyn am gyngor ar gyfleoedd.
- cyrff sy'n gwneud ymchwil ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr ALl a'r ysgolion, cyhyd ag y cedwir yr wybodaeth yn ddiogel.
- llywodraeth ganolog a llywodraeth leol at ddibenion cynllunio a darparu gwasanaethau addysgol.
- gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau iechyd a lles eraill pan fo angen rhannu gwybodaeth er mwyn amddiffyn a chefnogi disgyblion unigol.
- gwahanol gyrff rheoleiddio, megis ombwdsmyn ac awdurdodau arolygu, pan fo'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid trosglwyddo'r wybodaeth honno er mwyn iddynt allu gwneud eu gwaith.
Mae gan ddisgyblion hawliau penodol o dan y Ddeddf Diogelu Data, gan gynnwys hawl gyffredinol i gael gweld data personol a gedwir amdanynt gan unrhyw "reolydd data". Rhagdybir, erbyn bod plant yn 12 mlwydd oed, eu bod yn ddigon aeddfed i ddeall eu hawliau ac i gyflwyno cais eu hunain i weld yr wybodaeth, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fel arfer, os yw'r plentyn yn iau, disgwylir i riant wneud cais ar ran y plentyn.
Hysbysiad i rieni/ disgyblion
Os ydych am gael gweld eich data personol, neu ddata eich plentyn, cysylltwch yn ysgrifenedig â'r sefydliad perthnasol. Gellir cael manylion y sefydliadau hyn ar y wefan ganlynol www.ysgoldavidhughes.org/ neu, yn achos disgyblion/rhieni lle nad yw hynny'n ymarferol, gellir cael copi caled o'r ysgol gan y Pennaeth.
Disgyblion 14 oed neu hyn
Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio gan Brif Weithredwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau i greu Rhif Unigryw'r Dysgwr (ULN) ar eich cyfer, ac i greu eich Cofnod Dysgu Personol. Gellir gweld mwy o wybodaeth am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei phrosesu a'i rhannu yn http://www.learningrecordsservice.org.uk/learnparent
Ffynonellau eraill o wybodaeth
Mae diogelwch gwybodaeth yn bwysig iawn i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr ALl a'r Ysgol, ac mae ganddynt lawer o weithdrefnau yn eu lle i gyfyngu i'r eithaf ar unrhyw berygl i ddiogelwch gwybodaeth.
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr ALl a'r Ysgol yn ymdrechu i sicrhau bod yr wybodaeth a gedwir yn gywir bob amser. Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei hanfon y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi rhai hawliau i unigolion o ran yr wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt gan unrhyw gorff. Ymhlith yr hawliau hyn mae:
- yr hawl i ofyn am weld a chael copïau o'r wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch chi, er y gellir weithiau gyfiawnhau atal peth gwybodaeth.
- yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu os byddai hynny'n peri niwed neu ofid.
- yr hawl i ofyn i’r corff gywiro gwybodaeth sy’n anghywir.
- yr hawl i ofyn am iawndal os nad yw corff yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 a'ch bod yn dioddef niwed yn bersonol.
- mewn rhai achosion efallai y bydd gan riant neu warcheidwad cyfreithiol y disgybl hawl i dderbyn copi o ddata personol a gedwir am ddisgybl sy'n gyfreithiol dan eu gofal. Bydd achosion o'r fath yn cael eu hystyried yn unigol lle bernir nad oes gan yr unigolyn ddigon o ddealltwriaeth o'i hawliau o dan y Ddeddf.
Mae gennych hawl hefyd i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi ac yn goruchwylio Deddf Diogelu Data 1998, asesu a yw'n debygol bod yr wybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu yn unol â darpariaethau'r Ddeddf.
Gofynnir am ragor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth bersonol a gesglir ac am y defnydd a wneir ohoni, os ydych yn pryderu ynghylch pa mor gywir yw'r wybodaeth honno, neu os ydych yn dymuno defnyddio eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, dylech gysylltu â:
- yr ysgol ar 01248 712287
- eich ALl ar 01248 752900
- Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cynulliad Cymru yn, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
- gallwch ffonio llinell gymorth swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar 01625 545 745;
- ceir gwybodaeth hefyd yn https://ico.org.uk/
Dylai unrhyw berson sy'n dymuno gwneud cwyn yn y lle cyntaf gysylltu â'r Pennaeth. Os na chaiff y mater ei ddatrys, yna gall y gŵyn ei chyfeirio at Gadeirydd y Llywodraethwyr. Gellir cysylltu â’r Cadeirydd drwy'r ysgol. Y Corff Llywodraethol sydd â'r cyfrifoldeb terfynol a statudol ar gyfer gwrando ar gwynion, beirniadu a phenderfynu ar y camau i'w cymryd. Gellir gweld copi llawn o'r Polisi Cwynion drwy gysylltu â'r ysgol.
Mae’n wir dweud bod llond gwlad o gyfleoedd newydd ar gael yn sgil y rhyngrwyd. Os ydyw’n cael ei ddefnyddio’n gywir, gall gyfoethogi addysg ein plant a chynnig digonedd o adnoddau dysgu. Os ydyw’n cael ei ddefnyddio mewn ffordd amhriodol neu ddiniwed gall arwain at blant yn rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl.
Mae Ysgol David Hughes o ddifrif ynglŷn â’r angen i addysgu disgyblion ynghylch bod yn bwyllog wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Er enghraifft, bydd bob disgybl ym Mlwyddyn 7 yn dilyn modiwl Technoleg Gwybodaeth sy’n rhoi sylw i beryglon sgwrsio ar-lein a magu perthynas amhriodol (‘grooming’) ar-lein, a rhoddir sylw i faterion tebyg mewn gwersi ABCh ac Iechyd a Chymdeithasol yn hwyrach ymlaen. Rydym hefyd yn defnyddio meddalwedd arbenigol i gyfyngu ar y gwefannau y gall disgyblion eu defnyddio pan fyddant yn defnyddio rhwydwaith gyfrifiadurol yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys gwahardd holl wasanaethau rhyngweithiol megis ‘chat rooms’, e-bost, ‘Instant Messenger’, ayyb.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod disgyblion yn sgwrsio/anfon negeseuon ar-lein pan fyddant adref, ac mae nifer ohonynt wedi creu eu gwefannau eu hunain - sy’n aml yn cynnwys gwybodaeth bersonol, gan ddefnyddio gwefannau megis bebo.com, myspace.com, youtube.com ayyb. Fel y gallem ddisgwyl, nid yw’r un lefel o oruchwyliaeth ar gael yn y cartref o’i gymharu â’r ysgol (un o’r problemau yw eu bod ‘nhw’ yn aml yn gwybod mwy na ni!) ond y mae’n bwysig ceisio meithrin ein plant i ymddwyn yn ‘ddiogel a chyfrifol’, yn enwedig pan fyddant yn defnyddio’r rhyngrwyd.
Rydym yn siŵr y byddwch chi fel rhieni’n awyddus i’n cefnogi ar y mater hwn, a phwrpas y llythyr hwn yw rhoi gwybod i chi am ychydig yn unig o’r nifer fawr o wefannau cymorth sydd ar gael ar y we sy’n cynnig adnoddau a syniadau i annog deialog ryngweithiol rhwng rhieni a’u plant ifanc.
CEOP (Child Exploitation and Online Protection Centre) – y ganolfan genedlaethol ar gyfer diogelwch ar y rhyngrwyd. Gallwch ymweld â’u gwefan ar https://www.ceop.police.uk/safety-centre/
Gwefan arall sy’n cael ei darparu gan y CEOP, sy’n galluogi oedolion a phlant i roi gwybod i’r heddlu os ydynt yn amau bod rhywun yn magu perthynas amhriodol ar-lein (‘grooming’) yw www.thinkuknow.co.uk
Childnet International – elusen a sefydlwyd ym 1995 i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant. Mae ganddynt wefan sy’n cynnig golwg gyffredinol ar sut mae pobl ifanc yn ‘sgwrsio’ drwy ddefnyddio amrediad o gyfryngau rhyngweithiol, gan gynnwys ‘chat rooms’, ‘instant messaging’, ffonau symudol a gemau ar-lein. Mae Childnet hefyd wedi cynhyrchu pamffledi, cyflwyniad i rieni a CD ROM yn cynnig cyngor y gellir eu harchebu ar eu gwefan, http://www.childnet.com/
Mae’r pecyn adnoddau ‘Know IT All’ i ddisgyblion a rhieni, sydd ar gael ar http://www.childnet.com/resources/kia, yn disgrifio sut i werthuso gwefannau a ffonau symudol o safbwynt diogelwch.
Mae gwefan Chatdanger Childnet (http://www.childnet.com/resources/jennys-story) yn cynnwys llawer o straeon personol a chyngor. Ceir ffurflen ar-lein i gysylltu â staff Childnet os oes gan blant gwestiynau arbenigol y maent yn dymuno eu gofyn. Mae Childnet hefyd wedi cynhyrchu ‘Jenny’s Story’, sef, ffilm fer sy’n seiliedig ar stori wir am ferch yn ei harddegau sy’n sgwrsio â dieithryn ar y rhyngrwyd. Mae’r ffilm yn dangos sut mae Jenny’n rhannu gwybodaeth bersonol drwy sgwrsio ar-lein, a sut mae hynny’n arwain at sefyllfa lle mae’r person yn cysylltu â hi mewn bywyd go iawn ac yn y pen draw yn ei brifo.
www.smartsurfers.co.uk
ww1.netsmatz.org
www.kidsmart.org.uk
www.gridclub.com/cybercafe/teachers
www.disney.go.com/surfswell
http://www.bbc.co.uk/cbbc/shows/stay-safe
Mae gwybodaeth ychwanegol i rieni ar gael ar:
www.parentscentre.gov.uk/usingcomputersandtheinternet
Yn olaf, ar nodyn cadarnhaol:Nid yw popeth ynglŷn â’r rhyngrwyd yn ddrwg – i weld ffyrdd cadarnhaol y mae pobl ifanc wedi mynegi eu hunain, ymwelwch â http://www.childnet.com/